27 Lleddwch ei holl fustych hi; disgynnant i'r lladdfa: gwae hwynt! canys eu dydd a ddaeth, ac amser eu hymweliad.
28 Llef y rhai a ffoant ac a ddihangant o wlad Babilon, i ddangos yn Seion ddial yr Arglwydd ein Duw ni, dial ei deml ef.
29 Gelwch y saethyddion ynghyd yn erbyn Babilon; y perchen bwâu oll, gwersyllwch i'w herbyn hi o amgylch; na chaffed neb ddianc ohoni: telwch iddi yn ôl ei gweithred; ac yn ôl yr hyn oll a wnaeth hi, gwnewch iddi: oherwydd hi a fu falch yn erbyn yr Arglwydd, yn erbyn Sanct Israel.
30 Am hynny ei gwŷr ieuainc a syrthiant yn ei heolydd hi; a'i holl ryfelwyr a ddifethir y dydd hwnnw, medd yr Arglwydd.
31 Wele fi yn dy erbyn di, O falch, medd Arglwydd Dduw y lluoedd: oherwydd dy ddydd a ddaeth, yr amser yr ymwelwyf â thi.
32 A'r balch a dramgwydda ac a syrth, ac ni bydd a'i cyfodo: a mi a gyneuaf dân yn ei ddinasoedd, ac efe a ddifa ei holl amgylchoedd ef.
33 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Meibion Israel a meibion Jwda a orthrymwyd ynghyd; a phawb a'r a'u caethiwodd hwynt a'u daliasant yn dynn, ac a wrthodasant eu gollwng hwy ymaith.