38 Sychder sydd ar ei dyfroedd hi, a hwy a sychant: oherwydd gwlad delwau cerfiedig yw hi, ac mewn eilunod y maent yn ynfydu.
39 Am hynny anifeiliaid gwylltion yr anialwch, a chathod, a arhosant yno, a chywion yr estrys a drigant ynddi: ac ni phreswylir hi mwyach byth; ac nis cyfanheddir hi o genhedlaeth i genhedlaeth.
40 Fel yr ymchwelodd Duw Sodom a Gomorra, a'i chymdogesau, medd yr Arglwydd; felly ni phreswylia neb yno, ac ni erys mab dyn ynddi.
41 Wele, pobl a ddaw o'r gogledd, a chenedl fawr, a brenhinoedd lawer a godir o eithafoedd y ddaear.
42 Y bwa a'r waywffon a ddaliant; creulon ydynt, ac ni thosturiant: eu llef fel môr a rua, ac ar feirch y marchogant yn daclus i'th erbyn di, merch Babilon, fel gŵr i ryfel.
43 Brenin Babilon a glywodd sôn amdanynt, a'i ddwylo ef a lesgasant: gwasgfa a'i daliodd ef, a gwewyr fel gwraig wrth esgor.
44 Wele, fel llew y daw i fyny oddi wrth ymchwydd yr Iorddonen i drigfa y cadarn: eithr mi a wnaf iddo ef redeg yn ddisymwth oddi wrthi hi: a phwy sydd ŵr dewisol a osodwyf fi arni hi? canys pwy sydd fel myfi? a phwy a esyd i mi yr amser? a phwy yw y bugail hwnnw a saif o'm blaen i?