6 Fy mhobl a fu fel praidd colledig; eu bugeiliaid a'u gyrasant hwy ar gyfeiliorn, ar y mynyddoedd y troesant hwynt ymaith: aethant o fynydd i fryn, anghofiasant eu gorweddfa.
7 Pawb a'r a'u cawsant a'u difasant, a'u gelynion a ddywedasant, Ni wnaethom ni ar fai; canys hwy a bechasant yn erbyn yr Arglwydd, trigle cyfiawnder; sef yr Arglwydd, gobaith eu tadau.
8 Ciliwch o ganol Babilon, ac ewch allan o wlad y Caldeaid; a byddwch fel bychod o flaen y praidd.
9 Oherwydd wele, myfi a gyfodaf ac a ddygaf i fyny yn erbyn Babilon gynulleidfa cenhedloedd mawrion o dir y gogledd: a hwy a ymfyddinant yn ei herbyn; oddi yno y goresgynnir hi: eu saethau fydd fel saethau cadarn cyfarwydd; ni ddychwelant yn ofer.
10 A Chaldea fydd yn ysbail: pawb a'r a'i hysbeiliant hi a ddigonir, medd yr Arglwydd.
11 Am i chwi fod yn llawen, am i chwi fod yn hyfryd, chwi fathrwyr fy etifeddiaeth, am i chwi frasáu fel anner mewn glaswellt, a beichio fel teirw;
12 Eich mam a gywilyddir yn ddirfawr, a'r hon a'ch ymddûg a waradwyddir: wele, yr olaf o'r cenhedloedd yn anialwch, yn grastir, ac yn ddiffeithwch.