9 Oherwydd wele, myfi a gyfodaf ac a ddygaf i fyny yn erbyn Babilon gynulleidfa cenhedloedd mawrion o dir y gogledd: a hwy a ymfyddinant yn ei herbyn; oddi yno y goresgynnir hi: eu saethau fydd fel saethau cadarn cyfarwydd; ni ddychwelant yn ofer.
10 A Chaldea fydd yn ysbail: pawb a'r a'i hysbeiliant hi a ddigonir, medd yr Arglwydd.
11 Am i chwi fod yn llawen, am i chwi fod yn hyfryd, chwi fathrwyr fy etifeddiaeth, am i chwi frasáu fel anner mewn glaswellt, a beichio fel teirw;
12 Eich mam a gywilyddir yn ddirfawr, a'r hon a'ch ymddûg a waradwyddir: wele, yr olaf o'r cenhedloedd yn anialwch, yn grastir, ac yn ddiffeithwch.
13 Oherwydd digofaint yr Arglwydd nis preswylir hi, eithr hi a fydd i gyd yn anghyfannedd: pawb a êl heibio i Babilon a synna, ac a chwibana am ei holl ddialeddau hi.
14 Ymfyddinwch yn erbyn Babilon o amgylch; yr holl berchen bwâu, saethwch ati, nac arbedwch saethau: oblegid hi a bechodd yn erbyn yr Arglwydd.
15 Bloeddiwch yn ei herbyn hi o amgylch; hi a roddes ei llaw: ei sylfeini hi a syrthiasant, ei muriau a fwriwyd i lawr; oherwydd dial yr Arglwydd yw hyn: dielwch arni: fel y gwnaeth, gwnewch iddi.