17 A mi a osodais wylwyr arnoch chwi, gan ddywedyd, Gwrandewch ar sain yr utgorn. Hwythau a ddywedasant, Ni wrandawn ni ddim.
18 Am hynny clywch, genhedloedd: a thi gynulleidfa, gwybydd pa bethau sydd yn eu plith hwynt.
19 Gwrando, tydi y ddaear; wele fi yn dwyn drygfyd ar y bobl hyn, sef ffrwyth eu meddyliau eu hunain; am na wrandawsant ar fy ngeiriau, na'm cyfraith, eithr gwrthodasant hi.
20 I ba beth y daw i mi thus o Seba, a chalamus peraidd o wlad bell? eich poethoffrymau nid ydynt gymeradwy, ac nid melys eich aberthau gennyf.
21 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd, Wele fi yn rhoddi tramgwyddiadau i'r bobl hyn, fel y tramgwyddo wrthynt y tadau a'r meibion ynghyd; cymydog a'i gyfaill a ddifethir.
22 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Wele bobl yn dyfod o dir y gogledd, a chenedl fawr a gyfyd o ystlysau y ddaear.
23 Yn y bwa a'r waywffon yr ymaflant; creulon ydynt, ac ni chymerant drugaredd: eu llais a rua megis y môr, ac ar feirch y marchogant yn daclus, megis gwŷr i ryfel yn dy erbyn di, merch Seion.