2 Cyffelybais ferch Seion i wraig deg foethus.
3 Ati hi y daw y bugeiliaid â'u diadellau: yn ei herbyn hi o amgylch y gosodant eu pebyll; porant bob un yn ei le.
4 Paratowch ryfel yn ei herbyn hi; codwch, ac awn i fyny ar hanner dydd. Gwae ni! oherwydd ciliodd y dydd, canys cysgodau yr hwyr a ymestynasant.
5 Codwch, ac awn i fyny o hyd nos, a distrywiwn ei phalasau hi.
6 Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Torrwch goed, a chodwch glawdd yn erbyn Jerwsalem. Dyma y ddinas sydd i ymweled â hi; gorthrymder yw hi oll o'i mewn.
7 Megis y gwna ffynnon i'w dwfr darddu allan, felly y mae hi yn bwrw allan ei drygioni: trais ac ysbail a glywir ynddi; gofid a dyrnodiau sydd yn wastad ger fy mron.
8 Cymer addysg, O Jerwsalem, rhag i'm henaid i ymado oddi wrthyt; rhag i mi dy osod di yn anrhaith, yn dir anghyfanheddol.