20 I ba beth y daw i mi thus o Seba, a chalamus peraidd o wlad bell? eich poethoffrymau nid ydynt gymeradwy, ac nid melys eich aberthau gennyf.
21 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd, Wele fi yn rhoddi tramgwyddiadau i'r bobl hyn, fel y tramgwyddo wrthynt y tadau a'r meibion ynghyd; cymydog a'i gyfaill a ddifethir.
22 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Wele bobl yn dyfod o dir y gogledd, a chenedl fawr a gyfyd o ystlysau y ddaear.
23 Yn y bwa a'r waywffon yr ymaflant; creulon ydynt, ac ni chymerant drugaredd: eu llais a rua megis y môr, ac ar feirch y marchogant yn daclus, megis gwŷr i ryfel yn dy erbyn di, merch Seion.
24 Clywsom sôn amdanynt; ein dwylo a laesasant; blinder a'n daliodd, fel gofid gwraig yn esgor.
25 Na ddos allan i'r maes, ac na rodia ar hyd y ffordd: canys cleddyf y gelyn ac arswyd sydd oddi amgylch.
26 Merch fy mhobl, ymwregysa â sachliain, ac ymdroa yn y lludw; gwna i ti gwynfan a galar tost, megis am unig fab: canys y distrywiwr a ddaw yn ddisymwth arnom ni.