27 Mi a'th roddais di yn dŵr ac yn gadernid ymysg fy mhobl, i wybod ac i brofi eu ffordd hwy.
28 Cyndyn o'r fath gyndynnaf ydynt oll, yn rhodio ag enllib; efydd a haearn ŷnt; llygru y maent hwy oll.
29 Llosgodd y fegin; gan dân y darfu y plwm; yn ofer y toddodd y toddydd: canys ni thynnwyd y rhai drygionus ymaith.
30 Yn arian gwrthodedig y galwant hwynt; am wrthod o'r Arglwydd hwynt.