15 A mi a'ch taflaf allan o'm golwg, fel y teflais eich holl frodyr, sef holl had Effraim.
16 Am hynny na weddïa dros y bobl hyn, ac na ddyrchafa waedd na gweddi drostynt, ac nac eiriol arnaf: canys ni'th wrandawaf.
17 Oni weli di beth y maent hwy yn ei wneuthur yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem?
18 Y plant sydd yn casglu cynnud, a'r tadau yn cynnau tân, a'r gwragedd yn tylino toes, i wneuthur teisennau i frenhines y nef, ac i dywallt diod‐offrymau i dduwiau dieithr, i'm digio i.
19 Ai fi y maent hwy yn ei ddigio? medd yr Arglwydd: ai hwynt eu hun, er cywilydd i'w hwynebau eu hun?
20 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Wele, fy llid a'm digofaint a dywelltir ar y man yma, ar ddyn ac ar anifail, ar goed y maes, ac ar ffrwyth y ddaear; ac efe a lysg, ac nis diffoddir.
21 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Rhoddwch eich poethoffrymau at eich aberthau, a bwytewch gig.