2 Saf di ym mhorth tŷ yr Arglwydd, a chyhoedda y gair hwn yno, a dywed, Gwrandewch air yr Arglwydd, chwi holl Jwda, y rhai a ddeuwch i mewn trwy y pyrth hyn i addoli yr Arglwydd.
3 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, Gwellhewch eich ffyrdd, a'ch gweithredoedd; ac mi a wnaf i chwi drigo yn y man yma.
4 Nac ymddiriedwch mewn geiriau celwyddog, gan ddywedyd, Teml yr Arglwydd, teml yr Arglwydd, teml yr Arglwydd ydynt.
5 Canys os gan wellhau y gwellhewch eich ffyrdd a'ch gweithredoedd; os gan wneuthur y gwnewch farn rhwng gŵr a'i gymydog;
6 Ac ni orthrymwch y dieithr, yr amddifad, a'r weddw; ac ni thywelltwch waed gwirion yn y fan hon; ac ni rodiwch ar ôl duwiau dieithr, i'ch niwed eich hun;
7 Yna y gwnaf i chwi drigo yn y fan hon, yn y tir a roddais i'ch tadau chwi, yn oes oesoedd.
8 Wele chwi yn ymddiried mewn geiriau celwyddog ni wnânt les.