25 O'r dydd y daeth eich tadau chwi allan o wlad yr Aifft hyd y dydd hwn, mi a ddanfonais atoch fy holl wasanaethwyr y proffwydi, bob dydd gan foregodi, ac anfon:
26 Er hynny ni wrandawsant arnaf fi, ac ni ostyngasant eu clust, eithr caledasant eu gwarrau; gwnaethant yn waeth na'u tadau.
27 Am hynny ti a ddywedi y geiriau hyn oll wrthynt; ond ni wrandawant arnat: gelwi hefyd arnynt; ond nid atebant di.
28 Eithr ti a ddywedi wrthynt, Dyma genedl ni wrendy ar lais yr Arglwydd ei Duw, ac ni dderbyn gerydd: darfu am y gwirionedd, a thorrwyd hi ymaith o'u genau hwynt.
29 Cneifia dy wallt, O Jerwsalem, a bwrw i ffordd; a chyfod gwynfan ar y lleoedd uchel: canys yr Arglwydd a fwriodd i ffordd ac a wrthododd genhedlaeth ei ddigofaint.
30 Canys meibion Jwda a wnaethant ddrwg yn fy ngolwg, medd yr Arglwydd: gosodasant eu ffieidd‐dra yn y tŷ yr hwn y gelwir fy enw arno, i'w halogi ef.
31 A hwy a adeiladasant uchelfeydd Toffet, yr hon sydd yng nglyn mab Hinnom, i losgi eu meibion a'u merched yn tân, yr hyn ni orchmynnais, ac ni feddyliodd fy nghalon.