5 Canys os gan wellhau y gwellhewch eich ffyrdd a'ch gweithredoedd; os gan wneuthur y gwnewch farn rhwng gŵr a'i gymydog;
6 Ac ni orthrymwch y dieithr, yr amddifad, a'r weddw; ac ni thywelltwch waed gwirion yn y fan hon; ac ni rodiwch ar ôl duwiau dieithr, i'ch niwed eich hun;
7 Yna y gwnaf i chwi drigo yn y fan hon, yn y tir a roddais i'ch tadau chwi, yn oes oesoedd.
8 Wele chwi yn ymddiried mewn geiriau celwyddog ni wnânt les.
9 Ai yn lladrata, yn lladd, ac yn godinebu, a thyngu anudon, ac arogldarthu i Baal, a rhodio ar ôl duwiau dieithr, y rhai nid adwaenoch;
10 Y deuwch ac y sefwch ger fy mron i yn y tŷ hwn, yr hwn y gelwir fy enw i arno, ac y dywedwch, Rhyddhawyd ni i wneuthur y ffieidd‐dra hyn oll?
11 Ai yn lloches lladron yr aeth y tŷ yma, ar yr hwn y gelwir fy enw i, gerbron eich llygaid? wele, minnau a welais hyn, medd yr Arglwydd.