1 Yn yr amser hwnnw, medd yr Arglwydd, y dygant hwy esgyrn brenhinoedd Jwda, ac esgyrn ei dywysogion, ac esgyrn yr offeiriaid, ac esgyrn y proffwydi, ac esgyrn trigolion Jerwsalem, allan o'u beddau.
2 A hwy a'u taenant o flaen yr haul, ac o flaen y lleuad, a holl lu y nefoedd y rhai a garasant hwy, a'r rhai a wasanaethasant, a'r rhai y rhodiasant ar eu hôl, a'r rhai a geisiasant, a'r rhai a addolasant: ni chesglir hwynt, ac nis cleddir; yn domen ar wyneb y ddaear y byddant.
3 Ac angau a ddewisir o flaen bywyd gan yr holl weddillion a adewir o'r teulu drwg hwn, y rhai a adewir yn y lleoedd oll y gyrrais i hwynt yno, medd Arglwydd y lluoedd.
4 Ti a ddywedi wrthynt hefyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; A gwympant hwy, ac ni chodant? a dry efe ymaith, ac oni ddychwel?
5 Paham y ciliodd pobl Jerwsalem yma yn eu hôl ag encil tragwyddol? glynasant mewn twyll, gwrthodasant ddychwelyd.