10 Am hynny y rhoddaf eu gwragedd hwynt i eraill, a'u meysydd i'r rhai a'u meddianno: canys o'r lleiaf hyd y mwyaf, pob un sydd yn ymroi i gybydd‐dod; o'r proffwyd hyd at yr offeiriad, pawb sydd yn gwneuthur ffalster.
11 Iachasant hefyd archoll merch fy mhobl yn ysgafn, gan ddywedyd, Heddwch, heddwch; pryd nad oedd heddwch.
12 A fu gywilydd arnynt hwy pan wnaethant ffieidd‐dra? na fu ddim cywilydd arnynt, ac ni fedrasant wrido: am hynny y syrthiant ymysg y rhai a syrthiant: yn amser eu hymweliad y syrthiant, medd yr Arglwydd.
13 Gan ddifa y difâf hwynt, medd yr Arglwydd; ni bydd grawnwin ar y winwydden, na ffigys ar y ffigysbren, a'r ddeilen a syrth; a'r hyn a roddais iddynt a ymedy â hwynt.
14 Paham yr ydym ni yn aros? ymgesglwch ynghyd, ac awn i'r dinasoedd cedyrn, a distawn yno: canys yr Arglwydd ein Duw a'n gostegodd, ac a roes i ni ddwfr bustl i'w yfed, oherwydd pechu ohonom yn erbyn yr Arglwydd.
15 Disgwyl yr oeddem am heddwch, eto ni ddaeth daioni; am amser meddyginiaeth, ac wele ddychryn.
16 O Dan y clywir ffroeniad ei feirch ef; gan lais gweryriad ei gedyrn ef y crynodd yr holl ddaear: canys hwy a ddaethant, ac a fwytasant y tir, ac oll a oedd ynddo; y ddinas a'r rhai sydd yn trigo ynddi.