14 Paham yr ydym ni yn aros? ymgesglwch ynghyd, ac awn i'r dinasoedd cedyrn, a distawn yno: canys yr Arglwydd ein Duw a'n gostegodd, ac a roes i ni ddwfr bustl i'w yfed, oherwydd pechu ohonom yn erbyn yr Arglwydd.
15 Disgwyl yr oeddem am heddwch, eto ni ddaeth daioni; am amser meddyginiaeth, ac wele ddychryn.
16 O Dan y clywir ffroeniad ei feirch ef; gan lais gweryriad ei gedyrn ef y crynodd yr holl ddaear: canys hwy a ddaethant, ac a fwytasant y tir, ac oll a oedd ynddo; y ddinas a'r rhai sydd yn trigo ynddi.
17 Canys wele, mi a ddanfonaf seirff, asbiaid i'ch mysg, y rhai nid oes swyn rhagddynt: a hwy a'ch brathant chwi, medd yr Arglwydd.
18 Pan ymgysurwn yn erbyn gofid, fy nghalon sydd yn gofidio ynof.
19 Wele lais gwaedd merch fy mhobl, oblegid y rhai o wlad bell: Onid ydyw yr Arglwydd yn Seion? onid yw ei brenin hi ynddi? paham y'm digiasant â'u delwau cerfiedig, ac ag oferedd dieithr?
20 Y cynhaeaf a aeth heibio, darfu yr haf, ac nid ydym ni gadwedig.