17 Canys wele, mi a ddanfonaf seirff, asbiaid i'ch mysg, y rhai nid oes swyn rhagddynt: a hwy a'ch brathant chwi, medd yr Arglwydd.
18 Pan ymgysurwn yn erbyn gofid, fy nghalon sydd yn gofidio ynof.
19 Wele lais gwaedd merch fy mhobl, oblegid y rhai o wlad bell: Onid ydyw yr Arglwydd yn Seion? onid yw ei brenin hi ynddi? paham y'm digiasant â'u delwau cerfiedig, ac ag oferedd dieithr?
20 Y cynhaeaf a aeth heibio, darfu yr haf, ac nid ydym ni gadwedig.
21 Am friw merch fy mhobl y'm briwyd i: galerais; daliodd synder fi.
22 Onid oes driagl yn Gilead? onid oes yno ffisigwr? paham na wellha iechyd merch fy mhobl?