6 Mi a wrandewais ac a glywais, ond ni ddywedent yn iawn: nid edifarhaodd neb am ei anwiredd, gan ddywedyd, Beth a wneuthum i? pob un oedd yn troi i'w yrfa, megis march yn rhuthro i'r frwydr.
7 Ie, y ciconia yn yr awyr a edwyn ei dymhorau; y durtur hefyd, a'r aran, a'r wennol, a gadwant amser eu dyfodiad; eithr fy mhobl i ni wyddant farn yr Arglwydd.
8 Pa fodd y dywedwch, Doethion ydym ni, a chyfraith yr Arglwydd sydd gyda ni? wele, yn ddiau ofer y gwnaeth hi; ofer yw pin yr ysgrifenyddion.
9 Y doethion a waradwyddwyd, a ddychrynwyd, ac a ddaliwyd: wele, gwrthodasant air yr Arglwydd; a pha ddoethineb sydd ynddynt?
10 Am hynny y rhoddaf eu gwragedd hwynt i eraill, a'u meysydd i'r rhai a'u meddianno: canys o'r lleiaf hyd y mwyaf, pob un sydd yn ymroi i gybydd‐dod; o'r proffwyd hyd at yr offeiriad, pawb sydd yn gwneuthur ffalster.
11 Iachasant hefyd archoll merch fy mhobl yn ysgafn, gan ddywedyd, Heddwch, heddwch; pryd nad oedd heddwch.
12 A fu gywilydd arnynt hwy pan wnaethant ffieidd‐dra? na fu ddim cywilydd arnynt, ac ni fedrasant wrido: am hynny y syrthiant ymysg y rhai a syrthiant: yn amser eu hymweliad y syrthiant, medd yr Arglwydd.