10 Dros y mynyddoedd y codaf wylofain a chwynfan, a galar dros lanerchau yr anialwch; am eu llosgi hwynt, fel na thramwyo neb trwyddynt, ac na chlywir llais ysgrubliaid: adar y nefoedd a'r anifeiliaid hefyd a giliasant, aethant ymaith.
11 A mi a wnaf Jerwsalem yn garneddau, ac yn drigfan dreigiau; a dinasoedd Jwda a wnaf yn ddiffeithwch heb breswylydd.
12 Pa ŵr sydd ddoeth a ddeall hyn? a phwy y traethodd genau yr Arglwydd wrtho, fel y mynego paham y darfu am y tir, ac y llosgwyd fel anialwch heb gyniweirydd?
13 A dywedodd yr Arglwydd, Am wrthod ohonynt fy nghyfraith, yr hon a roddais ger eu bron hwynt, ac na wrandawsant ar fy llef, na rhodio ynddi;
14 Eithr myned yn ôl cyndynrwydd eu calon eu hun, ac yn ôl Baalim, yr hyn a ddysgodd eu tadau iddynt:
15 Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, Wele, mi a'u bwydaf hwynt, y bobl hyn, â wermod, ac a'u diodaf hwynt â dwfr bustl.
16 Gwasgaraf hwynt hefyd ymysg cenhedloedd nid adnabuant hwy na'u tadau: a mi a ddanfonaf ar eu hôl hwynt gleddyf, hyd oni ddifethwyf hwynt.