16 Gwasgaraf hwynt hefyd ymysg cenhedloedd nid adnabuant hwy na'u tadau: a mi a ddanfonaf ar eu hôl hwynt gleddyf, hyd oni ddifethwyf hwynt.
17 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Edrychwch, a gelwch am alarwragedd i ddyfod, a danfonwch am y rhai cyfarwydd, i beri iddynt ddyfod,
18 A brysio, a chodi cwynfan amdanom ni, fel y gollyngo ein llygaid ni ddagrau, ac y difero ein hamrantau ni ddwfr.
19 Canys llais cwynfan a glybuwyd o Seion, Pa wedd y'n hanrheithiwyd! Ni a lwyr waradwyddwyd; oherwydd i ni adael y tir, oherwydd i'n trigfannau ein bwrw ni allan.
20 Eto gwrandewch air yr Arglwydd, O wragedd, a derbynied eich clust air ei enau ef; dysgwch hefyd gwynfan i'ch merched, a galar bob un i'w gilydd.
21 Oherwydd dringodd angau i'n ffenestri, ac efe a ddaeth i'n palasau, i ddistrywio y rhai bychain oddi allan, a'r gwŷr ieuainc o'r heolydd.
22 Dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Celaneddau dynion a syrthiant megis tom ar wyneb y maes, ac megis y dyrnaid ar ôl y medelwr, ac ni chynnull neb hwynt.