18 A brysio, a chodi cwynfan amdanom ni, fel y gollyngo ein llygaid ni ddagrau, ac y difero ein hamrantau ni ddwfr.
19 Canys llais cwynfan a glybuwyd o Seion, Pa wedd y'n hanrheithiwyd! Ni a lwyr waradwyddwyd; oherwydd i ni adael y tir, oherwydd i'n trigfannau ein bwrw ni allan.
20 Eto gwrandewch air yr Arglwydd, O wragedd, a derbynied eich clust air ei enau ef; dysgwch hefyd gwynfan i'ch merched, a galar bob un i'w gilydd.
21 Oherwydd dringodd angau i'n ffenestri, ac efe a ddaeth i'n palasau, i ddistrywio y rhai bychain oddi allan, a'r gwŷr ieuainc o'r heolydd.
22 Dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Celaneddau dynion a syrthiant megis tom ar wyneb y maes, ac megis y dyrnaid ar ôl y medelwr, ac ni chynnull neb hwynt.
23 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Nac ymffrostied y doeth yn ei ddoethineb, ac nac ymffrostied y cryf yn ei gryfder, ac nac ymffrostied y cyfoethog yn ei gyfoeth;
24 Eithr y neb a ymffrostio, ymffrostied yn hyn, ei fod yn deall, ac yn fy adnabod i, mai myfi yw yr Arglwydd a wna drugaredd, barn, a chyfiawnder, yn y ddaear: oherwydd yn y rhai hynny yr ymhyfrydais, medd yr Arglwydd.