4 Gochelwch bawb ei gymydog, ac na choelied neb ei frawd: canys pob brawd gan ddisodli a ddisodla, a phob cymydog a rodia yn dwyllodrus.
5 Pob un hefyd a dwylla ei gymydog, a'r gwir nis dywedant: hwy a ddysgasant eu tafodau i ddywedyd celwydd, ymflinasant yn gwneuthur anwiredd.
6 Dy drigfan sydd yng nghanol twyll: oherwydd twyll y gwrthodasant fy adnabod i, medd yr Arglwydd.
7 Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Wele fi yn eu toddi hwynt, ac yn eu profi hwynt: canys pa wedd y gwnaf oherwydd merch fy mhobl?
8 Saeth lem yw eu tafod hwy, yn dywedyd twyll: â'i enau y traetha un heddwch wrth ei gymydog, eithr o'i fewn y gesyd gynllwyn iddo.
9 Onid ymwelaf â hwynt am hyn? medd yr Arglwydd: oni ddial fy enaid ar gyfryw genedl â hon?
10 Dros y mynyddoedd y codaf wylofain a chwynfan, a galar dros lanerchau yr anialwch; am eu llosgi hwynt, fel na thramwyo neb trwyddynt, ac na chlywir llais ysgrubliaid: adar y nefoedd a'r anifeiliaid hefyd a giliasant, aethant ymaith.