1 Baich gair yr Arglwydd at Israel trwy law Malachi.
2 Hoffais chwi, medd yr Arglwydd: a chwi a ddywedwch, Ym mha beth yr hoffaist ni? Onid brawd oedd Esau i Jacob? medd yr Arglwydd: eto Jacob a hoffais,
3 Ac Esau a gaseais, ac a osodais ei fynyddoedd yn ddiffeithwch, a'i etifeddiaeth i ddreigiau yr anialwch.
4 Lle y dywed Edom, Tlodwyd ni, eto dychwelwn, ac adeiladwn yr anghyfaneddleoedd; fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Hwy a adeiladant, ond minnau a fwriaf i lawr; a galwant hwynt yn Ardal drygioni, a'r Bobl wrth y rhai y llidiodd yr Arglwydd yn dragywydd.
5 Eich llygaid hefyd a welant, a chwithau a ddywedwch, Mawrygir yr Arglwydd oddi ar derfyn Israel.