1 Baich Ninefe. Llyfr gweledigaeth Nahum yr Elcosiad.
2 Duw sydd eiddigus, a'r Arglwydd sydd yn dial; yr Arglwydd sydd yn dial, ac yn berchen llid: dial yr Arglwydd ar ei wrthwynebwyr, a dal dig y mae efe i'w elynion.
3 Yr Arglwydd sydd hwyrfrydig i ddig, a mawr ei rym, ac ni ddieuoga yr anwir: yr Arglwydd sydd a'i lwybr yn y corwynt ac yn y rhyferthwy, a'r cymylau yw llwch ei draed ef.
4 Efe a gerydda y môr, ac a'i sych; yr holl afonydd a ddihysbydda efe: llesgaodd Basan a Charmel, a llesgaodd blodeuyn Libanus.
5 Y mynyddoedd a grynant rhagddo, a'r bryniau a doddant, a'r ddaear a lysg gan ei olwg, a'r byd hefyd a chwbl ag a drigant ynddo.