7 Daionus yw yr Arglwydd, amddiffynfa yn nydd blinder; ac efe a edwyn y rhai a ymddiriedant ynddo.
8 A llifeiriant yn myned trosodd y gwna efe dranc ar ei lle hi, a thywyllwch a erlid ei elynion ef.
9 Beth a ddychmygwch yn erbyn yr Arglwydd? efe a wna dranc; ni chyfyd blinder ddwywaith.
10 Canys tra yr ymddrysont fel drain, a thra meddwont fel meddwon, ysir hwynt fel sofl wedi llawn wywo.
11 Ohonot y daeth allan a ddychmyga ddrwg yn erbyn yr Arglwydd: cynghorwr drygionus.
12 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Pe byddent heddychol, ac felly yn aml, eto fel hyn y torrir hwynt i lawr, pan elo efe heibio. Er i mi dy flino, ni'th flinaf mwyach.
13 Canys yr awron y torraf ei iau ef oddi arnat, drylliaf dy rwymau.