9 Beth a ddychmygwch yn erbyn yr Arglwydd? efe a wna dranc; ni chyfyd blinder ddwywaith.
10 Canys tra yr ymddrysont fel drain, a thra meddwont fel meddwon, ysir hwynt fel sofl wedi llawn wywo.
11 Ohonot y daeth allan a ddychmyga ddrwg yn erbyn yr Arglwydd: cynghorwr drygionus.
12 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Pe byddent heddychol, ac felly yn aml, eto fel hyn y torrir hwynt i lawr, pan elo efe heibio. Er i mi dy flino, ni'th flinaf mwyach.
13 Canys yr awron y torraf ei iau ef oddi arnat, drylliaf dy rwymau.
14 Yr Arglwydd hefyd a orchmynnodd o'th blegid, na heuer o'th enw mwyach: torraf o dŷ dy dduwiau y gerfiedig a'r dawdd ddelw: gwnaf dy fedd; canys gwael ydwyt.
15 Wele ar y mynyddoedd draed yr efengylwr, cyhoeddwr heddwch: cadw di, O Jwda, dy wyliau, tâl dy addunedau: canys nid â y drygionus trwot mwy; cwbl dorrwyd ef ymaith.