10 Gwag, a gorwag, ac anrheithiedig yw hi, a'r galon yn toddi, a'r gliniau yn taro ynghyd, ac anhwyl ar bob lwynau, a'u hwynebau oll a gasglant barddu.
11 Pa le y mae trigfa y llewod, a phorfa cenawon y llewod? lle y rhodiai y llew, sef yr hen lew, a'r cenau llew, ac nid oedd a'u tarfai?
12 Y llew a ysglyfaethodd ddigon i'w genawon, ac a dagodd i'w lewesau, ac a lanwodd ag ysglyfaeth ei ffau, a'i loches ag ysbail.
13 Wele fi yn dy erbyn, medd Arglwydd y lluoedd; a mi a losgaf ei cherbydau yn y mwg, a'r cleddyf a ddifa dy lewod ieuainc; a thorraf ymaith o'r ddaear dy ysglyfaeth, ac ni chlywir mwy lais dy genhadau.