2 Canys dychwelodd yr Arglwydd ardderchowgrwydd Jacob, fel ardderchowgrwydd Israel: canys y dihysbyddwyr a'u dihysbyddodd hwynt, ac a lygrasant eu cangau gwinwydd.
3 Tarian ei wŷr grymus a liwiwyd yn goch, ei wŷr o ryfel a wisgwyd ag ysgarlad; y cerbydau fyddant gyda lampau tanllyd y dydd y byddo ei arlwy, a'r ffynidwydd a ysgydwir yn aruthrol.
4 Y cerbydau a gynddeiriogant yn yr heolydd, trawant wrth ei gilydd yn y priffyrdd: eu gwelediad fydd fel fflamau, ac fel mellt y saethant.
5 Efe a gyfrif ei weision gwychion; tramgwyddant wrth gerdded; prysurant at ei chaer hi, a'r amddiffyn a baratoir.
6 Pyrth y dwfr a agorir, a'r palas a ymddetyd.
7 A Hussab a gaethgludir, dygir hi i fyny, a'i morynion yn ei harwain megis â llais colomennod, yn curo ar eu dwyfronnau.
8 A Ninefe sydd er ys dyddiau fel llyn o ddwfr: ond hwy a ffoant. Sefwch, sefwch, meddant; ac ni bydd a edrycho yn ôl.