4 Y cerbydau a gynddeiriogant yn yr heolydd, trawant wrth ei gilydd yn y priffyrdd: eu gwelediad fydd fel fflamau, ac fel mellt y saethant.
5 Efe a gyfrif ei weision gwychion; tramgwyddant wrth gerdded; prysurant at ei chaer hi, a'r amddiffyn a baratoir.
6 Pyrth y dwfr a agorir, a'r palas a ymddetyd.
7 A Hussab a gaethgludir, dygir hi i fyny, a'i morynion yn ei harwain megis â llais colomennod, yn curo ar eu dwyfronnau.
8 A Ninefe sydd er ys dyddiau fel llyn o ddwfr: ond hwy a ffoant. Sefwch, sefwch, meddant; ac ni bydd a edrycho yn ôl.
9 Ysglyfaethwch arian, ysglyfaethwch aur; canys nid oes diben ar yr ystôr, a'r gogoniant o bob dodrefn dymunol.
10 Gwag, a gorwag, ac anrheithiedig yw hi, a'r galon yn toddi, a'r gliniau yn taro ynghyd, ac anhwyl ar bob lwynau, a'u hwynebau oll a gasglant barddu.