13 Wele dy bobl yn wragedd yn dy ganol di: pyrth dy dir a agorir i'th elynion; tân a ysodd dy farrau.
14 Tyn i ti ddwfr i'r gwarchae, cadarnha dy amddiffynfeydd; dos i'r dom, sathr y clai, cryfha yr odyn briddfaen.
15 Yno y tân a'th ddifa, y cleddyf a'th dyr ymaith, efe a'th ysa di fel pryf y rhwd; ymluosoga fel pryf y rhwd, ymluosoga fel y ceiliog rhedyn.
16 Amlheaist dy farchnadwyr rhagor sêr y nefoedd: difwynodd pryf y rhwd, ac ehedodd ymaith.
17 Dy rai coronog sydd fel y locustiaid, a'th dywysogion fel y ceiliogod rhedyn mawr, y rhai a wersyllant yn y caeau ar y dydd oerfelog, ond pan gyfodo yr haul, hwy a ehedant ymaith, ac ni adwaenir eu man lle y maent.
18 Dy fugeiliaid, brenin Asyria, a hepiant; a'th bendefigion a orweddant; gwasgerir dy bobl ar y mynyddoedd, ac ni bydd a'u casglo.
19 Ni thynnir dy archoll ynghyd, clwyfus yw dy weli; pawb a glywo sôn amdanat a gurant eu dwylo arnat; oherwydd pwy nid aeth dy ddrygioni drosto bob amser?