2 Bydd sŵn y ffrewyll, a sŵn cynnwrf olwynion, a'r march yn prancio, a'r cerbyd yn neidio.
3 Y marchog sydd yn codi ei gleddyf gloyw, a'i ddisglair waywffon; lliaws o laddedigion, ac aneirif o gelanedd; a heb ddiwedd ar y cyrff: tripiant wrth eu cyrff hwynt:
4 Oherwydd aml buteindra y butain deg, meistres swynion, yr hon a werth genhedloedd trwy ei phuteindra, a theuluoedd trwy ei swynion.
5 Wele fi i'th erbyn, medd Arglwydd y lluoedd, a datguddiaf dy odre ar dy wyneb, a gwnaf i genhedloedd weled dy noethni, ac i deyrnasoedd dy warth.
6 A thaflaf ffiaidd bethau arnat, a gwnaf di yn wael, a gosodaf di yn ddrych.
7 A bydd i bawb a'th welo ffoi oddi wrthyt, a dywedyd, Anrheithiwyd Ninefe, pwy a gwyna iddi? O ba le y ceisiaf ddiddanwyr i ti?
8 Ai gwell ydwyt na No dylwythog, yr hon a osodir rhwng yr afonydd, ac a amgylchir â dyfroedd, i'r hon y mae y môr yn rhagfur, a'i mur o'r môr?