5 Wele fi i'th erbyn, medd Arglwydd y lluoedd, a datguddiaf dy odre ar dy wyneb, a gwnaf i genhedloedd weled dy noethni, ac i deyrnasoedd dy warth.
6 A thaflaf ffiaidd bethau arnat, a gwnaf di yn wael, a gosodaf di yn ddrych.
7 A bydd i bawb a'th welo ffoi oddi wrthyt, a dywedyd, Anrheithiwyd Ninefe, pwy a gwyna iddi? O ba le y ceisiaf ddiddanwyr i ti?
8 Ai gwell ydwyt na No dylwythog, yr hon a osodir rhwng yr afonydd, ac a amgylchir â dyfroedd, i'r hon y mae y môr yn rhagfur, a'i mur o'r môr?
9 Ethiopia oedd ei chadernid, a'r Aifft, ac aneirif: Put a Lubim oedd yn gynhorthwy i ti.
10 Er hynny hi a dducpwyd ymaith, hi a gaethgludwyd; a'i phlant bychain a ddrylliwyd ym mhen pob heol; ac am ei phendefigion y bwriasant goelbrennau, a'i holl wŷr mawr a rwymwyd mewn gefynnau.
11 Tithau hefyd a feddwi; byddi guddiedig; ceisi hefyd gadernid rhag y gelyn.