8 Ai gwell ydwyt na No dylwythog, yr hon a osodir rhwng yr afonydd, ac a amgylchir â dyfroedd, i'r hon y mae y môr yn rhagfur, a'i mur o'r môr?
9 Ethiopia oedd ei chadernid, a'r Aifft, ac aneirif: Put a Lubim oedd yn gynhorthwy i ti.
10 Er hynny hi a dducpwyd ymaith, hi a gaethgludwyd; a'i phlant bychain a ddrylliwyd ym mhen pob heol; ac am ei phendefigion y bwriasant goelbrennau, a'i holl wŷr mawr a rwymwyd mewn gefynnau.
11 Tithau hefyd a feddwi; byddi guddiedig; ceisi hefyd gadernid rhag y gelyn.
12 Dy holl amddiffynfeydd fyddant fel ffigyswydd a'u blaenffrwyth arnynt: os ysgydwir hwynt, syrthiant yn safn y bwytawr.
13 Wele dy bobl yn wragedd yn dy ganol di: pyrth dy dir a agorir i'th elynion; tân a ysodd dy farrau.
14 Tyn i ti ddwfr i'r gwarchae, cadarnha dy amddiffynfeydd; dos i'r dom, sathr y clai, cryfha yr odyn briddfaen.