1 Gweledigaeth Obadeia. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw am Edom; Clywsom sôn oddi wrth yr Arglwydd, a chennad a hebryngwyd ymysg y cenhedloedd; Codwch, a chyfodwn i ryfela yn ei herbyn hi.
2 Wele, mi a'th wneuthum yn fychan ymysg y cenhedloedd; dibris iawn wyt.
3 Balchder dy galon a'th dwyllodd: ti yr hwn wyt yn trigo yn holltau y graig, yn uchel ei drigfa; yr hwn a ddywed yn ei galon, Pwy a'm tyn i'r llawr?
4 Ped ymddyrchefit megis yr eryr, a phe rhoit dy nyth ymhlith y sêr, mi a'th ddisgynnwn oddi yno, medd yr Arglwydd.
5 Pe delai lladron atat, neu ysbeilwyr nos, (pa fodd y'th dorrwyd ymaith!) oni ladratasent hwy eu digon? pe delsai cynullwyr grawnwin atat, oni weddillasent rawn?