11 A Boas a atebodd, ac a ddywedodd wrthi, Gan fynegi y mynegwyd i mi yr hyn oll a wnaethost i'th chwegr ar ôl marwolaeth dy ŵr; ac fel y gadewaist dy dad a'th fam, a gwlad dy enedigaeth, ac y daethost at bobl nid adwaenit o'r blaen.
12 Yr Arglwydd a dalo am dy waith; a bydded dy obrwy yn berffaith gan Arglwydd Dduw Israel, yr hwn y daethost i obeithio dan ei adenydd.
13 Yna hi a ddywedodd, Caffwyf ffafr yn dy olwg di, fy arglwydd; gan i ti fy nghysuro i, a chan i ti lefaru wrth fodd calon dy wasanaethferch, er nad ydwyf fel un o'th lawforynion di.
14 A dywedodd Boas wrthi hi, Yn amser bwyd tyred yma, a bwyta o'r bara, a gwlych dy damaid yn y finegr. A hi a eisteddodd wrth ystlys y medelwyr: ac efe a estynnodd iddi gras ŷd; a hi a fwytaodd, ac a ddigonwyd, ac a adawodd weddill.
15 A hi a gyfododd i loffa: a gorchmynnodd Boas i'w weision, gan ddywedyd, Lloffed hefyd ymysg yr ysgubau, ac na feiwch arni:
16 A chan ollwng gollyngwch hefyd iddi beth o'r ysgubau; a gadewch hwynt, fel y lloffo hi hwynt; ac na cheryddwch hi.
17 Felly hi a loffodd yn y maes hyd yr hwyr: a hi a ddyrnodd yr hyn a loffasai, ac yr oedd ynghylch effa o haidd.