20 A dywedodd Naomi wrth ei gwaudd, Bendigedig fyddo efe gan yr Arglwydd, yr hwn ni pheidiodd â'i garedigrwydd tua'r rhai byw a'r rhai meirw. Dywedodd Naomi hefyd wrthi hi, Agos i ni yw y gŵr hwnnw, o'n cyfathrach ni y mae efe.
21 A Ruth y Foabes a ddywedodd, Efe a ddywedodd hefyd wrthyf, Gyda'm llanciau i yr arhosi, nes gorffen ohonynt fy holl gynhaeaf i.
22 A dywedodd Naomi wrth Ruth ei gwaudd, Da yw, fy merch, i ti fyned gyda'i lancesi ef, fel na ruthront i'th erbyn mewn maes arall.
23 Felly hi a ddilynodd lancesau Boas i loffa, nes darfod cynhaeaf yr haidd a chynhaeaf y gwenith: ac a drigodd gyda'i chwegr.