8 Yna y dywedodd Boas wrth Ruth, Oni chlywi di, fy merch? Na ddos i loffa i faes arall, ac na cherdda oddi yma; eithr aros yma gyda'm llancesau i.
9 Bydded dy lygaid ar y maes y byddont hwy yn ei fedi; a dos ar eu hôl hwynt: oni orchmynnais i'r llanciau, na chyffyrddent â thi? A phan sychedych, dos at y llestri, ac yf o'r hwn a ollyngodd y llanciau.
10 Yna hi a syrthiodd ar ei hwyneb, ac a ymgrymodd i lawr, ac a ddywedodd wrtho ef, Paham y cefais ffafr yn dy olwg di, fel y cymerit gydnabod arnaf, a minnau yn alltudes?
11 A Boas a atebodd, ac a ddywedodd wrthi, Gan fynegi y mynegwyd i mi yr hyn oll a wnaethost i'th chwegr ar ôl marwolaeth dy ŵr; ac fel y gadewaist dy dad a'th fam, a gwlad dy enedigaeth, ac y daethost at bobl nid adwaenit o'r blaen.
12 Yr Arglwydd a dalo am dy waith; a bydded dy obrwy yn berffaith gan Arglwydd Dduw Israel, yr hwn y daethost i obeithio dan ei adenydd.
13 Yna hi a ddywedodd, Caffwyf ffafr yn dy olwg di, fy arglwydd; gan i ti fy nghysuro i, a chan i ti lefaru wrth fodd calon dy wasanaethferch, er nad ydwyf fel un o'th lawforynion di.
14 A dywedodd Boas wrthi hi, Yn amser bwyd tyred yma, a bwyta o'r bara, a gwlych dy damaid yn y finegr. A hi a eisteddodd wrth ystlys y medelwyr: ac efe a estynnodd iddi gras ŷd; a hi a fwytaodd, ac a ddigonwyd, ac a adawodd weddill.