10 Ac efe a ddywedodd, Bendigedig fyddych, fy merch, gan yr Arglwydd: dangosaist fwy o garedigrwydd yn y diwedd, nag yn y dechrau; gan nad aethost ar ôl gwŷr ieuainc, na thlawd na chyfoethog.
11 Ac yn awr, fy merch, nac ofna; yr hyn oll a ddywedaist, a wnaf i ti: canys holl ddinas fy mhobl a ŵyr mai gwraig rinweddol ydwyt ti.
12 Ac yn awr gwir yw fy mod i yn gyfathrachwr agos: er hynny y mae cyfathrachwr nes na myfi.
13 Aros heno; a'r bore, os efe a wna ran cyfathrachwr â thi, da; gwnaed ran cyfathrachwr: ond os efe ni wna ran cyfathrachwr â thi; yna myfi a wnaf ran cyfathrachwr â thi, fel mai byw yr Arglwydd: cwsg hyd y bore.
14 A hi a orweddodd wrth ei draed ef hyd y bore: a hi a gyfododd cyn yr adwaenai neb ei gilydd. Ac efe a ddywedodd, Na chaffer gwybod dyfod gwraig i'r llawr dyrnu.
15 Ac efe a ddywedodd, Moes dy fantell sydd amdanat, ac ymafael ynddi. A hi a ymaflodd ynddi; ac efe a fesurodd chwe mesur o haidd, ac a'i gosododd arni: a hi a aeth i'r ddinas.
16 A phan ddaeth hi at ei chwegr, hi a ddywedodd, Pwy ydwyt ti, fy merch? A hi a fynegodd iddi yr hyn oll a wnaethai y gŵr iddi hi.