2 Ac yn awr onid yw Boas o'n cyfathrach ni, yr hwn y buost ti gyda'i lancesi? Wele efe yn nithio haidd y nos hon yn y llawr dyrnu.
3 Ymolch gan hynny, ac ymira, a gosod dy ddillad amdanat, a dos i waered i'r llawr dyrnu: na fydd gydnabyddus i'r gŵr, nes darfod iddo fwyta ac yfed.
4 A phan orweddo efe, yna dal ar y fan y gorweddo efe ynddi; a dos, a dinoetha ei draed ef, a gorwedd; ac efe a fynega i ti yr hyn a wnelych.
5 A hi a ddywedodd wrthi, Gwnaf yr hyn oll a erchaist i mi.
6 A hi a aeth i waered i'r llawr dyrnu, ac a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynasai ei chwegr iddi.
7 Ac wedi i Boas fwyta ac yfed, fel y llawenhaodd ei galon, efe a aeth i gysgu i gwr yr ysgafn. Hithau a ddaeth yn ddistaw, ac a ddinoethodd ei draed, ac a orweddodd.
8 Ac yng nghanol y nos y gŵr a ofnodd, ac a ymdrôdd: ac wele wraig yn gorwedd wrth ei draed ef.