7 Ac wedi i Boas fwyta ac yfed, fel y llawenhaodd ei galon, efe a aeth i gysgu i gwr yr ysgafn. Hithau a ddaeth yn ddistaw, ac a ddinoethodd ei draed, ac a orweddodd.
8 Ac yng nghanol y nos y gŵr a ofnodd, ac a ymdrôdd: ac wele wraig yn gorwedd wrth ei draed ef.
9 Ac efe a ddywedodd, Pwy ydwyt ti? A hi a ddywedodd, Myfi yw Ruth dy lawforwyn: lleda gan hynny dy adain dros dy lawforwyn, canys fy nghyfathrachwr i ydwyt ti.
10 Ac efe a ddywedodd, Bendigedig fyddych, fy merch, gan yr Arglwydd: dangosaist fwy o garedigrwydd yn y diwedd, nag yn y dechrau; gan nad aethost ar ôl gwŷr ieuainc, na thlawd na chyfoethog.
11 Ac yn awr, fy merch, nac ofna; yr hyn oll a ddywedaist, a wnaf i ti: canys holl ddinas fy mhobl a ŵyr mai gwraig rinweddol ydwyt ti.
12 Ac yn awr gwir yw fy mod i yn gyfathrachwr agos: er hynny y mae cyfathrachwr nes na myfi.
13 Aros heno; a'r bore, os efe a wna ran cyfathrachwr â thi, da; gwnaed ran cyfathrachwr: ond os efe ni wna ran cyfathrachwr â thi; yna myfi a wnaf ran cyfathrachwr â thi, fel mai byw yr Arglwydd: cwsg hyd y bore.