1 Yna Boas a aeth i fyny i'r porth, ac a eisteddodd yno. Ac wele y cyfathrachwr yn myned heibio, am yr hwn y dywedasai Boas. Ac efe a ddywedodd wrtho, Ho, hwn a hwn! tyred yn nes; eistedd yma. Ac efe a nesaodd, ac a eisteddodd.
2 Ac efe a gymerth ddengwr o henuriaid y ddinas, ac a ddywedodd, Eisteddwch yma. A hwy a eisteddasant.
3 Ac efe a ddywedodd wrth y cyfathrachwr, Y rhan o'r maes yr hon oedd eiddo ein brawd Elimelech a werth Naomi, yr hon a ddychwelodd o wlad Moab.
4 A dywedais y mynegwn i ti, gan ddywedyd, Prŷn ef gerbron y trigolion, a cherbron henuriaid fy mhobl. Os rhyddhei, rhyddha ef; ac oni ryddhei, mynega i mi, fel y gwypwyf: canys nid oes ond ti i'w ryddhau, a minnau sydd ar dy ôl di. Ac efe a ddywedodd, Myfi a'i rhyddhaf.