13 Felly Boas a gymerodd Ruth; a hi a fu iddo yn wraig: ac efe a aeth i mewn ati hi; a'r Arglwydd a roddodd iddi hi feichiogi, a hi a ymddûg fab.
14 A'r gwragedd a ddywedasant wrth Naomi, Bendigedig fyddo yr Arglwydd, yr hwn ni'th adawodd di heb gyfathrachwr heddiw, fel y gelwid ei enw ef yn Israel.
15 Ac efe fydd i ti yn adferwr einioes, ac yn ymgeleddwr i'th benwynni: canys dy waudd, yr hon a'th gâr di, a blantodd iddo ef, a hon sydd well i ti na saith o feibion.
16 A Naomi a gymerth y plentyn, ac a'i gosododd ef yn ei mynwes, ac a fu famaeth iddo.
17 A'i chymdogesau a roddasant iddo enw, gan ddywedyd, Ganwyd mab i Naomi; ac a alwasant ei enw ef Obed: hwn oedd dad Jesse, tad Dafydd.
18 Dyma genedlaethau Phares: Phares a genhedlodd Hesron,
19 A Hesron a genhedlodd Ram, a Ram a genhedlodd Aminadab,