16 A Naomi a gymerth y plentyn, ac a'i gosododd ef yn ei mynwes, ac a fu famaeth iddo.
17 A'i chymdogesau a roddasant iddo enw, gan ddywedyd, Ganwyd mab i Naomi; ac a alwasant ei enw ef Obed: hwn oedd dad Jesse, tad Dafydd.
18 Dyma genedlaethau Phares: Phares a genhedlodd Hesron,
19 A Hesron a genhedlodd Ram, a Ram a genhedlodd Aminadab,
20 Ac Aminadab a genhedlodd Nahson, a Nahson a genhedlodd Salmon,
21 A Salmon a genhedlodd Boas, a Boas a genhedlodd Obed,
22 Ac Obed a genhedlodd Jesse, a Jesse a genhedlodd Dafydd.