8 Am hynny y dywedodd y cyfathrachwr wrth Boas, Prŷn i ti dy hun: ac efe a ddiosgodd ei esgid.
9 A dywedodd Boas wrth yr henuriaid, ac wrth yr holl bobl, Tystion ydych chwi heddiw, i mi brynu yr hyn oll oedd eiddo Elimelech, a'r hyn oll oedd eiddo Chilion a Mahlon, o law Naomi.
10 Ruth hefyd y Foabes, gwraig Mahlon, a brynais i mi yn wraig, i gyfodi enw y marw ar ei etifeddiaeth ef, fel na thorrer ymaith enw y marw o blith ei frodyr, nac oddi wrth borth ei fangre: tystion ydych chwi heddiw.
11 A'r holl bobl y rhai oedd yn y porth, a'r henuriaid, a ddywedasant, Yr ydym yn dystion: Yr Arglwydd a wnelo y wraig sydd yn dyfod i'th dŷ di fel Rahel, ac fel Lea, y rhai a adeiladasant ill dwy dŷ Israel; a gwna di rymustra yn Effrata, bydd enwog yn Bethlehem:
12 Bydded hefyd dy dŷ di fel tŷ Phares, yr hwn a ymddûg Tamar i Jwda, o'r had yr hwn a ddyry yr Arglwydd i ti o'r llances hon.
13 Felly Boas a gymerodd Ruth; a hi a fu iddo yn wraig: ac efe a aeth i mewn ati hi; a'r Arglwydd a roddodd iddi hi feichiogi, a hi a ymddûg fab.
14 A'r gwragedd a ddywedasant wrth Naomi, Bendigedig fyddo yr Arglwydd, yr hwn ni'th adawodd di heb gyfathrachwr heddiw, fel y gelwid ei enw ef yn Israel.