10 A'r dydd hwnnw, medd yr Arglwydd, y bydd llais gwaedd o borth y pysgod, ac udfa o'r ail, a drylliad mawr o'r bryniau.
11 Udwch, breswylwyr Machtes: canys torrwyd ymaith yr holl bobl o farchnadyddion; a holl gludwyr arian a dorrwyd ymaith.
12 A'r amser hwnnw y chwiliaf Jerwsalem â llusernau, ac yr ymwelaf â'r dynion sydd yn ceulo ar eu sorod; y rhai a ddywedant yn eu calon, Ni wna yr Arglwydd dda, ac ni wna ddrwg.
13 Am hynny eu cyfoeth a â yn ysbail, a'u teiau yn anghyfannedd: adeiladant hefyd dai, ond ni phreswyliant ynddynt; a phlannant winllannoedd, ond nid yfant o'r gwin.
14 Agos yw mawr ddydd yr Arglwydd, agos a phrysur iawn, sef llais dydd yr Arglwydd: yno y bloeddia y dewr yn chwerw.
15 Diwrnod llidiog yw y diwrnod hwnnw, diwrnod trallod a chyfyngdra, diwrnod dinistr ac anghyfanhedd-dra, diwrnod tywyll a du, diwrnod cymylau a thywyllni.
16 Diwrnod utgorn a larwm yn erbyn y dinasoedd caerog, ac yn erbyn y tyrau uchel.