4 Estynnaf hefyd fy llaw ar Jwda, ac ar holl breswylwyr Jerwsalem; a thorraf ymaith o'r lle hwn weddill Baal, ac enw y Chemariaid â'r offeiriaid;
5 A'r neb a ymgrymant ar bennau y tai i lu y nefoedd; a'r addolwyr y rhai a dyngant i'r Arglwydd, a hefyd a dyngant i Malcham;
6 A'r rhai a giliant oddi ar ôl yr Arglwydd; a'r rhai ni cheisiasant yr Arglwydd, ac nid ymofynasant amdano.
7 Distawa gerbron yr Arglwydd Dduw; canys agos yw dydd yr Arglwydd: oherwydd arlwyodd yr Arglwydd aberth, gwahoddodd ei wahoddedigion.
8 A bydd, ar ddydd aberth yr Arglwydd, i mi ymweled â'r tywysogion, ac â phlant y brenin, ac â phawb a wisgant wisgoedd dieithr.
9 Ymwelaf hefyd â phawb a neidiant ar y rhiniog y dydd hwnnw, y sawl a lanwant dai eu meistr â thrais ac â thwyll.
10 A'r dydd hwnnw, medd yr Arglwydd, y bydd llais gwaedd o borth y pysgod, ac udfa o'r ail, a drylliad mawr o'r bryniau.