1 Ymgesglwch, ie, deuwch ynghyd, genedl anhawddgar;
2 Cyn i'r ddeddf esgor, cyn i'r dydd fyned heibio fel peiswyn, cyn dyfod arnoch lid digofaint yr Arglwydd, cyn dyfod arnoch ddydd soriant yr Arglwydd.
3 Ceisiwch yr Arglwydd, holl rai llariaidd y ddaear, y rhai a wnaethant ei farn ef; ceisiwch gyfiawnder, ceisiwch larieidd-dra: fe allai y cuddir chwi yn nydd digofaint yr Arglwydd.
4 Canys bydd Gasa yn wrthodedig, ac Ascalon yn anghyfannedd: gyrrant allan Asdod hanner dydd, a diwreiddir Ecron.
5 Gwae breswylwyr glan y môr, cenedl y Cerethiaid! y mae gair yr Arglwydd i'ch erbyn: O Ganaan, gwlad y Philistiaid, mi a'th ddifethaf, fel na byddo cyfanheddwr.
6 A bydd glan y môr yn drigfâu ac yn fythod i fugeiliaid, ac yn gorlannau defaid.
7 A bydd y fro yn rhan i weddill tŷ Jwda; porant arnynt: yn nheiau Ascalon y gorweddant yn yr hwyr: canys yr Arglwydd eu Duw a ymwêl â hwynt, ac a ddychwel eu caethiwed.