7 A bydd y fro yn rhan i weddill tŷ Jwda; porant arnynt: yn nheiau Ascalon y gorweddant yn yr hwyr: canys yr Arglwydd eu Duw a ymwêl â hwynt, ac a ddychwel eu caethiwed.
8 Clywais waradwyddiad Moab, a chabledd meibion Ammon, â'r hwn y gwaradwyddasant fy mhobl, ac yr ymfawrygasant yn erbyn eu terfynau hwynt.
9 Am hynny fel mai byw fi, medd Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, Fel Sodom y bydd Moab, a meibion Ammon fel Gomorra: danhadldir, a phyllau halen, ac anghyfanheddle tragwyddol: gweddill fy mhobl a'u difroda, a gweddill fy nghenedl a'u meddianna hwynt.
10 Hyn a ddaw iddynt am eu balchder, am iddynt waradwyddo ac ymfawrygu yn erbyn pobl Arglwydd y lluoedd.
11 Ofnadwy a fydd yr Arglwydd iddynt: canys efe a newyna holl dduwiau y ddaear; ac addolant ef bob un o'i fan, sef holl ynysoedd y cenhedloedd.
12 Chwithau hefyd, yr Ethiopiaid, a leddir â'm cleddyf.
13 Ac efe a estyn ei law yn erbyn y gogledd, ac a ddifetha Asyria, ac a wna Ninefe yn anghyfannedd, ac yn sych fel diffeithwch.