9 Am hynny fel mai byw fi, medd Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, Fel Sodom y bydd Moab, a meibion Ammon fel Gomorra: danhadldir, a phyllau halen, ac anghyfanheddle tragwyddol: gweddill fy mhobl a'u difroda, a gweddill fy nghenedl a'u meddianna hwynt.
10 Hyn a ddaw iddynt am eu balchder, am iddynt waradwyddo ac ymfawrygu yn erbyn pobl Arglwydd y lluoedd.
11 Ofnadwy a fydd yr Arglwydd iddynt: canys efe a newyna holl dduwiau y ddaear; ac addolant ef bob un o'i fan, sef holl ynysoedd y cenhedloedd.
12 Chwithau hefyd, yr Ethiopiaid, a leddir â'm cleddyf.
13 Ac efe a estyn ei law yn erbyn y gogledd, ac a ddifetha Asyria, ac a wna Ninefe yn anghyfannedd, ac yn sych fel diffeithwch.
14 A diadellau a orweddant yn ei chanol hi, holl anifeiliaid y cenhedloedd: y pelican a'r dylluan hefyd a letyant ar gap y drws; eu llais a gân yn y ffenestri; anghyfanhedd-dra a fydd yn y gorsingau: canys efe a ddinoetha y cedrwaith.
15 Hon yw y ddinas hoyw oedd yn trigo yn ddiofal, yn dywedyd yn ei chalon, Myfi sydd, ac nid oes ond myfi: pa fodd yr aeth yn anghyfannedd, yn orweddfa anifeiliaid! pawb a'r a êl heibio iddi, a'i hwtia, ac a ysgwyd ei law arni.