1 Gwae y fudr a'r halogedig, y ddinas orthrymus!
2 Ni wrandawodd ar y llef, ni dderbyniodd gerydd; nid ymddiriedodd yn yr Arglwydd, ni nesaodd at ei Duw.
3 Ei thywysogion o'i mewn sydd yn llewod rhuadwy; ei barnwyr yn fleiddiau yr hwyr, ni adawant asgwrn erbyn y bore.
4 Ei phroffwydi sydd ysgafn, yn wŷr anffyddlon: ei hoffeiriaid a halogasant y cysegr, treisiasant y gyfraith.
5 Yr Arglwydd cyfiawn sydd yn ei chanol; ni wna efe anwiredd: yn fore y dwg ei farn i oleuni, ni phalla; ond yr anwir ni fedr gywilyddio.
6 Torrais ymaith y cenhedloedd: eu tyrau sydd anghyfannedd; diffeithiais eu heolydd, fel nad elo neb heibio; eu dinasoedd a ddifwynwyd, heb ŵr, a heb drigiannol.
7 Dywedais, Yn ddiau ti a'm hofni; derbynni gerydd: felly ei thrigfa ni thorrid ymaith, pa fodd bynnag yr ymwelais â hi: eto boregodasant, a llygrasant eu holl weithredoedd.