6 Torrais ymaith y cenhedloedd: eu tyrau sydd anghyfannedd; diffeithiais eu heolydd, fel nad elo neb heibio; eu dinasoedd a ddifwynwyd, heb ŵr, a heb drigiannol.
7 Dywedais, Yn ddiau ti a'm hofni; derbynni gerydd: felly ei thrigfa ni thorrid ymaith, pa fodd bynnag yr ymwelais â hi: eto boregodasant, a llygrasant eu holl weithredoedd.
8 Am hynny disgwyliwch arnaf fi, medd yr Arglwydd, hyd y dydd y cyfodwyf i'r ysglyfaeth: canys fy marn sydd ar gynnull y cenhedloedd, ar gasglu y teyrnasoedd, i dywallt arnynt fy llid, holl angerdd fy nigofaint: canys â thân fy eiddigedd yr ysir yr holl ddaear.
9 Oherwydd yna yr adferaf i'r bobl wefus bur, fel y galwo pob un ohonynt ar enw yr Arglwydd, i'w wasanaethu ef ag un ysgwydd.
10 O'r tu hwnt i afonydd Ethiopia y dwg fy ngweddïwyr, sef merch fy ngwasgaredig, fy offrwm.
11 Y dydd hwnnw ni'th waradwyddir am dy holl weithredoedd, yn y rhai y pechaist i'm herbyn: canys yna y symudaf o'th blith y neb sydd yn hyfryd ganddynt dy falchder, fel nad ymddyrchafech mwyach yn fy mynydd sanctaidd.
12 Gadawaf ynot hefyd bobl druain dlodion, ac yn enw yr Arglwydd y gobeithiant hwy.